The High Sheriff of Clwyd Mr Henry Dixon visited West Rhyl on Thursday to see how young artists are transforming properties in the town’s regeneration area.
The High Sheriff’s Crimebeat Fund sponsored a poster competition at two of the town’s junior schools, Ysgol Emmanuel and Christchurch School, to design vibrant sign boards for properties which form part of the regeneration scheme currently underway in the town.
Clwyd Alyn Housing Association, part of the Pennaf housing Group, has been working with Project Partners Denbighshire County Council and the Welsh Government to refurbish some homes, build new properties, and clear areas to make way for a new community green space area.
As properties have been acquired for the project they have been boarded up, and responding to local concerns, Clwyd Alyn arranged for designs provided by local school children to brighten up the doors.
“It’s really excellent to see children involved in the regeneration of their town and their artwork is superb. It shows real pride in their home town and it’s good to let people know that the properties which have been boarded up are part of creating a vibrant new area,” said Mr Dafydd Ifans, Chair of Clwyd Alyn Housing Association.
Sarah Baldwin, Clwyd Alyn’s Assistant Surveyor added: “ We’d like to thank the High Sheriff for supporting this creative initiative and also say a special Thank You to both of the winning artists, Izabelle Murphy and Bailey Heap, and to every one at Ysgol Emmanuel and Christchurch School in Rhyl who contributed their artwork and ideas.
The High Sheriff of Clwyd, Mr Henry Dixon, presented certificates and a £10 book token for the winners together with £50 to each of the schools, with Christchurch Teacher Miss Hannah Bach representing Bailey, who was unable to attend on Thursday.
High Sheriff Mr Henry Dixon said: “This is exactly the sort of creative initiative that we wish to encourage at the Crimebeat Fund. It is about local communities taking an innovative approach to improving their neighbourhoods and the school children have done a wonderful job.”
20 of the submitted designs have already been converted into door boards and funding is also currently being sought for more of the children’s designs to be turned into door boards for additional properties ear-marked for the regeneration work.
Cllr Hugh Evans, Leader of Denbighshire County Council and Lead Member for Economic Development said: “This is an excellent initiative that is helping to engage with people, especially youngsters, about the work that is going on to regenerate Rhyl. These designs will certainly bring some colour to the area and they send out a clear message that the young people are proud of their town and what is going on to improve the quality of life for people in their local community”.
Dydd Iau mi wnaeth Uchel Siryf Clwyd, Mr Henry Dixon ymweld â Gorllewin Y Rhyl i weld sut mae artistiaid ifanc yn trawsnewid adeiladau mewn rhan o’r dref sy’n cael ei hadfywio.
Mi wnaeth Cronfa Trechu Trosedd yr Uchel Siryf noddi cystadleuaeth mewn dwy o ysgolion cynradd y dref, Ysgol Emmanuel ac Ysgol Christchurch. Roedd rhaid i’r disgyblion gynllunio arwyddion lliwgar ar gyfer adeiladau fel rhan o gynllun adfywio’r dref.
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf wedi bod yn gweithio gyda Phartneriaid Prosiect Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i ailwampio tai, adeiladu adeiladau newydd a glanhau ardaloedd er mwyn gwneud lle ar gyfer ardal gymunedol werdd newydd.
Wrth i’r adeiladau gael eu caffael ar gyfer y prosiect cafodd y ffenestri a’r drysau eu gorchuddio â phren. Gan ymateb i bryderon lleol, mi wnaeth Clwyd Alyn drefnu i gynlluniau a gafwyd gan ddisgyblion ysgolion lleol wella ymddangosiad yr adeiladau.
“Mae’n gyffrous iawn gweld plant yn cymryd diddordeb yn y gwaith o adfywio eu tref ac mae eu gwaith celf yn ardderchog. Mae’n dangos eu bod yn cymryd balchder yn y dref ac mae’n llesol gadael i bobl wybod bod yr adeiladau sydd a’u ffenestri a’u drysau dan goed yn rhan o brosiect i greu ardal newydd a lliwgar,” meddai Mr Dafydd Ifans, Cadeirydd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn.
Fe ychwanegodd Sarah Baldwin, Syrfëwr Cynorthwyol Clwyd Alyn: “Hoffwn ddiolch i’r Uchel Siryf am gefnogi’r fenter greadigol hon a hefyd i’r ddau artist a enillodd y gystadleuaeth, Isabelle Murphy a Bailey Heap. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb yn Ysgol Emmanuel ac Ysgol Christchurch, Y Rhyl am gyfrannu eu gwaith artistig a’u syniadau.
Mi wnaeth Uchel Siryf Clwyd, Mr Henry Dixon, gyflwyno tystysgrifau a thocyn llyfr o £10 i’r enillwyr ynghyd â £50 i bob ysgol. Mrs Hannah Bach, athrawes o YsgolChristchurchwnaeth gynrychioli Bailey dydd Iau oherwydd nad oedd yn gallu bod yn bresennol.
Meddai’r Uchel Siryf Mr Henry Dixon: “Dyma’r union fath o fenter greadigol y mae Cronfa Trechu Trosedd yn dymuno ei hannog. Dyma enghraifft o gymunedau lleol yn ymdrechu i wella eu cymdogaethau ac mae’r plant ysgol wedi gwneud gwaith gwych.”
Mae 20 o’r cynlluniau a gafodd eu cyflwyno eisoes wedi cael eu rhoi ar rai o’r adeiladau ac rydym wedi cyflwyno cais am nawdd er mwyn i fwy o gynlluniau’r plant gael eu rhoi ar adeiladau eraill sydd wedi’u clustnodi ar gyfer y cynllun adfywio.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych a’r Aelod Blaen ar gyfer Datblygiad Economaidd: “Dyma fenter wych sy’n helpu i ennyn diddordeb unigolion, yn enwedig pobl ifanc, yn y gwaith sy’n cael ei wneud i adfywio Y Rhyl. Heb os bydd y cynlluniau hyn yn dod ag ychydig o liw i’r ardal a byddant yn anfon neges glir i bobl bod pobl ifanc yn falch o’u tref a’r hyn sy’n mynd ymlaen i wella ansawdd bywyd pobl yn eu cymuned leol”.



