Beth yw Uchel Siryf?

Hanes swyddfa’r uchel siryf

Mae Uchel Siryfion wedi bodoli ers o leiaf 1,000 o flynyddoedd. Roedd y “Meiri” gwreiddiol yn swyddogion Brenhinol a benodwyd i orfodi buddiannau’r Brenin mewn Sir, yn enwedig casglu refeniw a gorfodi’r gyfraith.
Roedd gan Uchel Siryfion bwerau helaeth. Roeddent yn barnu achosion mewn llysoedd misol ac yn gweithredu fel swyddogion gorfodi’r gyfraith. Roeddent yn gallu codi’r ‘gwae ac ymlid’ ar ôl troseddwyr yn y Sir ac yn gallu galw a gorfodi’r ‘posse comitatus’, sef grym milwrol llawn y Sir. Cyfeirir at Siryfion drwy gydol y Magna Carta ac roeddent yn amlwg yn hanfodol ar gyfer y ffordd yr oedd y Siroedd yn cael eu rhedeg. Erbyn 1254 fe oruchwyliodd yr Uchel Siryf etholiad ddau Farchog Sir i’r Senedd.
O tua 1300 fe ddechreuodd eu pwerau leihau wrth i fwy a mwy o swyddogaethau gael eu canoli. Sefydlwyd y trysorlys i weinyddu’r gwaith o gasglu trethi ac archwilio cyfrifon y Siryf. Sefydlwyd system o Gyfiawnder ac Aseis teithiol. Fodd bynnag, parhaodd Siryfion yn gyfrifol and roi gwritiau, trefnu’r Llys, carchardai a rheithgorau a gweithredu dedfrydau unwaith yr oeddent wedi’u cyhoeddi. Roedd hefyd yn gyfrifoldeb ar y Siryf i sicrhau diogelwch a chyfforddusrwydd y Barnwyr. Dyma darddiad dyletswydd gofal yr Uchel Siryf am les Barnwyr yr Uchel Lys. Daeth newidiadau pellach gyda chread y Crwneriaid a’r Ynadon Heddwch a sefydliad yr Arglwydd Raglawiaid fel cynrychiolwyr personol y Sofren.
Mae traddodiad yn honni mai Brenhines Elizabeth I ddechreuodd yr arfer o benodi Uwch Siryfion drwy bigo eu henwau pan ddaethpwyd â’r Rôl iddi ac wrth iddi hi wneud brodwaith. Yn anffodus, myth yw hyn gan fod Rôl Siryf yn dyddio’n ôl i deyrnasiad Brenin Harri’r VII lle mae’r enw wedi’i bigo drwy’r felwm. Yn wir, mae hon yn ffurf gynnar o ddiogelwch dogfennau. Roedd yn rhaid i Siryfion gasglu trethi amhoblogaidd a gellid eu dal yn atebol am unrhyw ddiffygion. Roedd yna felly gymhelliant i geisio osgoi siom. Fodd bynnag, er pris y llwgrwobr, ni allai unrhyw un swyddogol guddio twll drwy’r felwm yn erbyn enw’r unigolyn. Mae’r arferiad o’r Frenhines yn pigo enwau’r Uchel Siryf yn parhau hyd heddiw.
Yn y 19eg Ganrif cafodd cyfrifoldebau Siryfion am yr heddlu, carchardai ac eiddo’r Goron eu trosglwyddo i gyrff statudol. Cafodd eu pwerau a oedd yn weddill eu cyfundrefnu yn Neddf Siryfion 1887. Mae’r Ddeddf hon, a’r diwygiadau dilynol, yn parhau mewn grym hyd heddiw. Ymysg pethau eraill mae’n cadarnhau’r broses hanesyddol o enwebiad gan y Sofren.

Rôl bresennol yr uwch siryfion

Mae Swydd Uwch Siryf yn benodiad Brenhinol amhleidiol annibynnol am flwyddyn yn unig. Heddiw, mae yna 55 Uwch siryf sy’n gwasanaethu Siroedd Cymru a Lloegr.
Mae eu dyletswyddau yn cynnwys bod yn bresennol mewn digwyddiadau brenhinol yn y Sir a chefnogi Barnwyr Uchel Lys Ei Mawrhydi pan fyddant ar Gylchdaith. Mae cefnogi’r Goron a’r Farnwriaeth yn parhau’n elfen ganolog o’r rôl. Maent yn rhoi cymorth gweithredol ac anogaeth i’r Heddlu a’r Gwasanaethau Brys, y Gwasanaeth Prawf a’r Carchardai ac i asiantaethau eraill sy’n ymwneud ag atal trosedd, yn enwedig ymysg pobl ifanc. Yn unol â Deddf Cyfraith Droseddol 1826 bydd Uchel Siryfion yn cyflwyno gwobrau i bobl sy’n cynorthwyo â dal troseddwyr. Gallant weithredu fel Swyddogion Dychwelyd ar gyfer etholiadau seneddol mewn rhai siroedd.
Mae Uchel Siryfion yn chwarae rôl gynyddol weithgar o ran hyrwyddo’r sector gwirfoddol o fewn eu cymunedau. Mae nifer o Uchel Siryfion yn rhoi eu gwobrau personol eu hunain i unigolion, ac yn aml yn gwneud llawer iawn o waith gyda grwpiau gwirfoddol, sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol mewn rhyw ffordd. Gan fod y Swydd Uwch Siryf yn annibynnol ac yn amhleidiol maent mewn sefyllfa dda i allu dod ag amrywiaeth o bobl yn y gymuned maent yn ei gwasanaethu ynghyd. Nid yw Uchel Siryfion yn derbyn unrhyw dâl.
Gellir crynhoi rôl yr Uchel Siryf fel â ganlyn:
• cynnal ac ehangu’r Swydd Uwch Siryf a gwneud cyfraniad ystyrlon i Sir yr Uwch Siryf yn ystod eu blwyddyn yn y Swydd.
• rhoi cymorth gweithredol i brif ddeiliaid y Cyfansoddiad o fewn eu Sir – y Teulu Brenhinol, y Farnwriaeth, yr Heddlu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill, y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a’r holl grwpiau eglwysig a ffydd gydnabyddedig.
• sicrhau lles Barnwyr Uchel Lys, gofalu amdanynt yn y Llys a chynnig lletygarwch iddynt.
• cefnogi’r Arglwydd Raglaw ar ymweliadau brenhinol ac achlysuron eraill fel bo’n briodol
• chwarae rhan weithredol mewn cefnogi a hyrwyddo sefydliadau gwirfoddol o fewn y Sir.
Yma yng Ngogledd Cymru mae ein Uchel Siryfion yn cymryd rhan weithredol yn cefnogi Trechu Trosedd Clwyd a Gwynedd gan eich cefnogi ar draws y rhanbarth.