Busnesau Lleol

Ydych chi'n fusnes lleol? Gallwch chi helpu hefyd!

Pa un a ydych yn siop leol fach, yn berson busnes proffesiynol neu’n un o’r cwmnïau uchaf ei fri yn y DU, byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi i wireddu rhai o amcanion Crimebeat. Rydym wastad yn chwilio am gwmnïau newydd a all gynnig cefnogaeth drwy roi arian neu nwyddau a gwasanaethau. Yn gyfnewid am hynny, yn ogystal â gwybod eich bod yn cynnig help amhrisiadwy i’ch cymuned leol, mae gennym gyfleoedd PR amrywiol.

Os oes diddordeb gennych mewn cefnogi achosion gwirioneddol werth chweil, cysylltwch â ni ar 01745 588 516 neu’r e-bost [email protected]