Mae‘n bleser gennym gadarnhau penodiad ein Cadetiaid Uchel Siryf ar gyfer Gwynedd a Chlwyd ar gyfer 2025/26.
Yng Ngwynedd bydd Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu Osian Williams a Brodie Dixon yn gwasanaethu gydag Uchel Siryf Gwynedd Rhys Davies
Yng Nghlwyd bydd Uchel Siryf Julie Gillbanks yng nghwmni Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu Angharad Watts a Harry Rolls o Uned Cadetiaid Llai ynghyd ag Alfie Dougherty ac Ellen Rennie o Uned Cadetiaid Bae Colwyn.
Mae’r ddau Uchel Siryf yn edrych ymlaen at gael eu Cadetiaid gyda nhw ar ymweliadau trwy gydol eu blwyddyn yn y swydd. Bydd y dyletswyddau hyn yn cynnwys ymweliadau â digwyddiadau heddlu, prosiectau cymunedol Crimebeat, seremonïau dinasyddiaeth a llawer mwy.
Mae’r Uchel Siryf Julie Gillbanks eisoes wedi mynd â dau o‘i chadetiaid ar ymweliadau diweddar â Nod Rhuthun ac mae llawer mwy eisoes ar y gweill.


