A very big “Thank You” to all who have supported The Walk with your very generous sponsorship. Your money will go a long way to helping Anglesey’s vulnerable young people, and you will be able hear more about this through our website in due course.
Anglesey’s High Sheriff, Professor Robin Grove-White, completed his 125-mile fund-raising trek around the Anglesey Coastal Footpath with a call for further support for the campaign on behalf of the island’s young unemployed.
The 71-year-old, formerly Chairman of Greenpeace UK and Director of Lancaster University’s Centre for the Study of Environmental Change, said the 15-day walk had been ‘an exhilarating experience’. He was accompanied by his artist wife, Helen. More than 600 individuals and groups joined them at various stages of ‘The Walk’, over the last two weeks of March. These included Albert Owen MP, Ieuan Wyn Jones AM, several Judges, supporters, friends, numerous voluntary organisations and groups of unemployed young people.
“The public response has already been terrific. We are two-thirds of the way to our target of £25,000, to enable us to fund third sector initiatives to help the island’s young people. I’d like to thank the many folk who have supported us in what’s a real community initiative,” said Professor Grove-White.
The purpose of The Walk has been to draw attention to the problems now facing many young people on the island, and to raise funds for the local organisations who are able to create new opportunities for them and increase their self-confidence.
“More assistance is needed. During the course of ‘The Walk’, I’ve been struck by the contrasting experiences of people living in different parts of the island. Whilst a majority of us are leading comfortable lives taking advantage of Anglesey’s beautiful surroundings, there are worsening pockets of disadvantage in towns and villages where unemployment is most serious,” said Robin.
The High Sheriff’s charity Crimebeat, with expert advice, will allocate the funds to charities and other innovative bodies on the island that really understand the issues through their hands-on experience.
Facebook www.facebook.com/pages/The-Walk/176199905814097
and www.justgiving.com/theangleseywalk.
The High Sheriff is a 1000-year-old unpaid office, standing for justice and good citizenship within a county. It has strong historical links with the judiciary. A new High Sheriff is appointed by the Privy Council each year for every county in England and Wales.
The High Sheriff for Gwynedd (including Anglesey) 2011/12 was Professor Robin Grove-White, who lives at Brynddu in Llanfechell, Anglesey, formerly the residence of his ancestor, the celebrated eighteenth-century diarist, William Bulkeley.
Professor Robin Grove-White finished his term of office as The High Sheriff for Gwynedd (including Anglesey) on 31 March 2012, just as the walk was completed. He will continue to be involved in the High Sheriff’s charity Crimebeat.
Diolch o waelod calon i bawb a noddodd y Daith. Bydd eich arian yn mynd yn bell iawn tuag at helpu pobl ifanc fregus Ynys Môn, a bydd mwy am hyn i’w weld ar ein gwefan cyn bo hir.
Apêl am ragor o gefnogaeth sydd gan Uchel Siryf Ynys Môn, yr Athro Robin Grove-White, ar ôl iddo gwblhau ei daith gerdded noddedig 125 milltir ar hyd lwybrau arfordirol Môn i godi arian i helpu pobl ifanc ddi-waith yr ynys.
Yn ôl yr Uchel Siryf, sy’n gyn Gadeirydd Greenpeace UK ac yn gyn Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Newid Amgylcheddol Prifysgol Lancaster, roedd y daith dros 15 diwrnod ddiwedd mis Mawrth yng nghwmni ei wraig Helen yn brofiad arbennig iawn ac mae’n ddiolchgar dros ben am gefnogaeth y 600 a mwy o unigolion, grwpiau gwirfoddol a chyfeillion a ymunodd â nhw ar y ffordd – Albert Owen AS, Ieuan Wyn Jones AC a sawl Barnwr yn eu plith.
“Mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn anhygoel. ‘Rydan erbyn hyn ddwy ran o dair o’r ffordd at gyrraedd ein targed o £25,000 fydd yn ein galluogi ni i ariannu mentrau trydydd sector i helpu pobl ifanc Ynys Môn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni yn yr ymgyrch wirioneddol gymunedol hon” meddai’r Athro Grove-White.
Pwrpas ‘Y Daith’ oedd tynnu sylw at yr anawsterau sy’n wynebu llawer iawn o bobl ifanc Ynys Môn a chodi arian ar gyfer y sefydliadau lleol sy’n ceisio creu cyfleoedd newydd iddynt ac yn eu helpu i gynyddu eu hunanhyder.
“Ond mae angen mwy o gymorth eto. Yr hyn wnaeth fy nharo i yn ystod y daith oedd yr amrywiaeth eang o brofiadau sydd gan pobl ifanc o wahanol rannau o’r Ynys. Mae’r mwyafrif ohonom ni yn mwynhau bywydau cyfforddus ar yr Ynys hardd yma, ond mae’r pocedi o amddifadedd yn y trefi a’r pentrefi ble mae diweithdra ar ei waethaf yn cynyddu o hyd” meddai Robin.
Bydd Trechu Trosedd, elusen yr Uchel Siryf, yn cael cyngor arbenigol i’w helpu nhw i ddyrannu’r arian i elusennau a chyrff arloesol eraill ar yr ynys sydd, o ganlyniad i’w profiad ymarferol, yn wirioneddol ddeall y problemau.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.crimebeatnorthwales.co.uk/thewalk
Facebook www.facebook.com/pages/The-Walk/176199905814097
a www.justgiving.com/theangleseywalk.
Mae swydd ddi-dâl yr Uchel Siryf yn bodoli ers dros 1000 o flynyddoedd. Caiff Uchel Siryf newydd ar gyfer pob sir yng Nghymru a Lloegr ei b/phenodi bob blwyddyn gan y Cyfrin Gyngor. Mae i’r swydd gysylltiadau hanesyddol cryf â’r farnwriaeth a’i phwrpas yw sefyll dros gyfiawnder a dinasyddiaeth dda.
Uchel Siryf Gwynedd (ac Ynys Môn) 2011/12 oedd yr Athro Robin Grove-White sy’n byw ym Mrynddu, Llanfechell, Ynys Môn, hen gartref ei gyndaid William Bulkeley, dyddiadurwr enwog y 18fed ganrif.
Daeth tymor yr Athro Robin Grove-White yn ei swydd fel Uchel Siryf Gwynedd (ac Ynys Môn) i ben ar 31 Mawrth 2012 fel yr daeth ei daith o amgylch yr Ynys i ben. Bydd yn parhau i fod yn gysylltiedig â Threchu Trosedd, elusen yr Uchel Siryf.
Yr Athro Robin Grove-White yn socian ei draed ar ôl cyrraedd adref i’w gartref yn Lanfechell, Ynys Môn.
