Dyma Uchel Siryfion Clwyd a Gwynedd 2025/26

Mae Trechu Trosedd Gogledd Cymru yn falch iawn o groesawu ein dau Uchel Siryf newydd – Rhys Davies, Uchel Siryf Gwynedd, a Julie Gillbanks, Uchel Siryf Clwyd, sydd wedi’u penodi i’r rolau gan y Brenin Siarl III ddechrau mis Ebrill 2025. Bydd Rhys a Julie yn gwasanaethu eu siroedd priodol am y deuddeg mis nesaf gan helpu Trechu Trosedd, y sector gwirfoddol a’r gwasanaethau brys a llawer o bobl eraill yn ystod eu blwyddyn yn y swydd.

Mae Julie Gillbanks, Uchel Siryf Clwyd, yn frodor o Sir y Fflint. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd gwaith hefo plant a theuluoedd sydd wedi’u gwthio i’r cyrion gan gymdeithas, gan gynnwys cyfnod fel gweithiwr cymdeithasol a rheolwr i amrywiol awdurdodau lleol. Symudodd wedyn draw i’r sector elusennol, lle parhaodd weithio i Action for Children, yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru, nes camu’n ôl yn Nadolig 2024 cyn dod yn Uchel Siryf Clwyd.

Dywedodd Julie wrthym ni: “Mae bywyd bob amser wedi bod yn brysur ac yn foddhaol. Dwi bob amser wedi bod wrth fy modd yn fy ngwaith ac wedi ymrwymo gwella bywydau plant sy’n cael eu cam-drin neu blant bregus.

Dwi’n credu y bydda i fel Uchel Siryf yn gallu hyrwyddo’r amcanion hyn. Dwi wedi ymrwymo helpu elusennau lleol bach a sefydliadau nid er elw, gan dynnu sylw at y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud er mwyn helpu pobl ledled Clwyd, a thaflu goleuni ar unigolion sydd mor anhunanol yn rhoi eu hamser a’u hegni er mwyn helpu pobl eraill.”

 

Uchel Siryf Gwynedd 2025/26, Rhys Davies gyda‘i Uchel Siryf Cadetiaid Brodie Dixon ac Osian Williams.

 

 

 

Mae Trechu Trosedd Gogledd Cymru yn edrych ymlaen at gydweithio hefo’n Uchel Siryfion newydd a byddem hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i ddweud ‘Diolch’ i’n Huchel Siryfion sy’n darfod – Karen Farrell-Thornley (Clwyd) a Sarah Foskett YH (Gwynedd). Mae’r ddwy wedi cyfrannu cymaint at Trechu Trosedd a’n cymunedau ni’n ystod eu blwyddyn yn y swydd. Maen nhw wedi codi symiau sylweddol o arian er mwyn helpu ein cronfa ieuenctid Trechu Trosedd, a fydd yn parhau i helpu pobl ifanc ledled Gogledd Cymru.

Gallwch ganfod mwy am rôl Uchel Siryfion yma