Nannerch VCP School – Buddy Benefits Scheme

The High Sheriff of Clwyd, Mr Henry Dixon, visited Nanerch VCP School recently to meet teachers and pupils who had set up a Buddy scheme.

Eirwen Roberts, the Chairperson of the School Council, together with other Council members, Matt, Sadie and Carys, explained to the High Sheriff how the  Buddy Scheme was developed:

 “To create a safe, quiet place in our school playground where children can relax and talk to our ‘Buddy’s’ if they have any worries/ concerns or issues at break time.

The Buddy system involves seven children from Nannerch primary school who are voted to be a buddy. Buddies are children that volunteer their time to help others that are upset. This system aims to make all children around us feel safe, equally treated and privileged , just like our school motto says  (“Learning Together, Reaching Higher”), we believe that through working together we can create the perfect place to be.

The donation from Crimebeat allowed the school to purchase a ‘Buddy Benefit Bench’ which is sited by the school orchard, a quiet place where people that are feeling a bit down, can go to sit and relax. The Buddies will regularly check for any people and help them whether the problem is they have no one to play with or someone has been mean, the buddies will always help along the way! We have decided that we would like a Buddy sign announcing the Buddy Benefit Bench.”

 

The High Sheriff also took part in the School Assembly, answering questions from the children (mostly about his sword!) and was delighted to meet such an enthusiastic and caring group of young people. This was also the opportunity to officially declare the Buddy Bench “Open”, and the High Sheriff used his ceremonial sword to cut the ribbon.

The Buddy Bench features a picture that pupils designed themselves with the help of a local artist. Ymwelodd Uchel Siryf Clwyd, Mr Henry Dixon, ag Ysgol Gynradd Nannerch yn ddiweddar er mwyn cyfarfod yr athrawon a’r disgyblion sydd wedi sefydlu Cynllun Cyfeillion.

Eglurodd Eirwen Roberts, Cadeirydd Cyngor yr Ysgol, ynghyd ag aelodau eraill o’r Cyngor, Matt, Sadie a Carys, i’r Uchel Siryf sut a pham y datblygwyd y Cynllun Cyfeillion:

“Er mwyn creu man diogel, tawel yn ein lle chwarae lle gall plant ymlacio a siarad â’n ‘Cyfeillion’ os oes ganddynt unrhyw bryderon neu broblemau amser egwyl.

Mae’r system Cyfeillion yn cynnwys saith o blant o ysgol gynradd Nannerch sy’n cael eu hethol fel Cyfeillion. Cyfeillion yw’r term a ddefnyddir am blant sy’n gwirfoddoli eu hamser i helpu eraill. Nod y system hon yw gwneud i blant eraill o’n cwmpas deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu trin yr un fath yn union, fel mae arwyddair ein hysgol yn ei ddweud – “Dysgu gyda’n gilydd, Cyflawni mwy – rydym yn credu drwy gydweithio y gallwn greu’r lle perffaith i fod.

Galluogodd y cyfraniad gan Trechu Trosedd i’r ysgol brynu ‘Mainc Cyfeillion’ sydd wedi’i lleoli ger perllan yr ysgol, lle tawel lle gall pobl sy’n teimlo’n ddigalon fynd i eistedd ac ymlacio. Bydd y Cyfeillion yn cadw llygad allan am unrhyw un sy’n eistedd yno ac yn eu helpu os nad oes ganddynt unrhyw un i chwarae efo nhw neu os oes rhywun wedi bod yn gas, bydd y cyfeillion bob amser yn barod i helpu. Rydym wedi penderfynu yr hoffem gael arwydd yn dangos lle mae’r fainc wedi’i lleoli.

Fe wnaeth yr Uchel Siryf hefyd gymryd rhan yn y Gwasanaeth Boreol gan ateb cwestiynau gan y plant (y rhan fwyaf am ei gleddyf!) ac roedd o’n falch iawn o gyfarfod cynifer o blant brwdfrydig a gofalgar. Roedd hefyd yn gyfle i agor y Fainc Cyfeillion yn swyddogol a defnyddiodd y Siryf ei gleddyf i dorri’r rhuban.

Mae’r fainc yn cynnwys llun y bu’r disgyblion ddylunio eu hunain, gyda chymorth arlunwyr lleol.