Over 1600 pupils across Conwy and Denbighshire have been given some of the best advice on staying safe and out of harm’s way – thanks to the ‘Safety Crew’.
Now in its 11th year – the ‘Safety Crew’ are a group of Performing Arts students from Coleg Llandrillo who tour nearby schools with a specially tailored drama production.
Encouraging pupils to think, put their safety as well as that of their friends first by following the ‘safety code’ is the main aim of the production. The drama sees superhero ‘Safetyman’ and his trusted ‘Safety Crew’ and arch rivals – ‘Dr Hazard and the Trickster’ take pupils on a whirlwind tour of some of the most current topics.
Issues tackled included stranger danger, anti-social behaviour, bogus callers, criminal damage, internet safety, cycle safety, safety at home and peer pressure.
And, for five days last week (between February 10 and 14), youngsters from 10 schools including Ysgol Llewellyn in Rhyl, Ysgol Porth y Felin, Conwy, Ysgol Maelgwn, Llanduno Junction, Ysgol Esgob Morgan, St Asaph, Ysgol Pendref, Denbigh, Christchurch School, Rhyl, Ysgol Mair, Rhyl, Ysgol Penmorfa Prestatyn, Ysgol Pendorlan, Colwyn Bay, Ysgol Llandrillo yn Rhos, Rhos-on-Sea, got the opportunity to not only see the 16 strong cast but also become members of the Safety Crew themselves and join in with the performance.
One of the first schools to view this year’s drama was Ysgol Glanwydden. The drama which was sponsored by Crimbeat, Conwy Road Safety and the Community Safety Partnership, was given the thumbs up by head teacher John Paul Jones. Complementing both the acting and singing, Mr Jones said: “The safety messages are delivered clearly and they are also relevant to the age range of the pupils.”
Ifan Hughes, a Crime Reduction Manager with North Wales Police, said: “This is the first year that the Safety Crew has visited schools in Denbighshire. Between both counties 10 schools were visited which resulted over 1,600 children seeing the performance which was tailored towards Key Stage 2.”
He added: “The week was fantastic. All the teachers and pupils who saw the performance were very impressed with the messages delivered by the students who we would like to thank for their time and effort in delivering such a professional production.”
Mae dros 1600 o ddisgyblion yn Sir Ddinbych a Chonwy wedi cael y cyngor gorau bosib ar aros yn ddiogel a chadw allan o drwbwl – diolch i’r ‘Criw Diogelwch’.
Bellach mae’r fenter yn ei 11eg blwyddyn –mae’r ‘Criw Diogelwch’ yn grŵp o fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio o Goleg Llandrillo sy’n ymweld ag ysgolion yr ardal i berfformio drama arbennig.
Annog y disgyblion i feddwl a rhoi eu diogelwch nhw a diogelwch eu ffrindiau yn gyntaf drwy ddilyn y ‘cod diogelwch’ yw prif nod y cynhyrchiad. Yn y ddrama mae’r arwr‘Safetyman’ a’i ‘Dîm Diogelwch’ ynghyd â’i elynion – ‘Dr Hazard a Trickster’ yn mynd â’r disgyblion ar daith o amgylch rhai o’r pynciau mwyaf cyfoes.
Ymysg y materion a roddwyd sylw iddynt roedd peryglon dieithriaid, ymddygiad gwrthgymdeithasol, galwadau ffug, difrod troseddol, diogelwch ar y rhyngrwyd, diogelwch beics, diogelwch yn y cartref a phwysau gan gyfoedion.
Dros bum niwrnod yr wythnos diwethaf (rhwng 10 a 14 Chwefror), cafodd disgyblion o 10 ysgol gan gynnwys Ysgol Llewellyn yn Y Rhyl, Ysgol Porth y Felin, Conwy, Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno, Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy, Ysgol Pendref, Dinbych, Ysgol Christchurch, Y Rhyl, Ysgol Mair, Y Rhyl, Ysgol Penmorfa Prestatyn, Ysgol Pendorlan, Bae Colwyn ac Ysgol Llandrillo yn Rhos gyfle nid yn unig i weld y ddrama a oedd yn cynnwys cast o 16 o actorion ond hefyd i fod yn aelod o’r Criw Diogelwch ac i ymuno yn y perfformiad.
Un o’r ysgolion cyntaf i weld y ddrama eleni oedd Ysgol Glanwydden. Cafodd y ddrama a nodwyd gan Trechu Trosedd, Diogelwch y Ffyrdd Conwy a’r Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ei chanmol gan y pennaeth John Paul Jones. Wrth ganmol yr actio a’r canu, fe ddywedodd Mr Jones: “Mae’r negeseuon diogelwch yn cael eu trosglwyddo yn glir ac maent hefyd yn berthnasol i’r disgyblion.”
Meddai Ifan Hughes, Rheolwr Lleihau Trosedd Heddlu Gogledd Cymru: “Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Criw Diogelwch ymweld ag ysgolion yn Sir Ddinbych. Rhwng y ddwy sir fe ymwelwyd â 10 ysgol ac o ganlyniad gwelodd dros 1,600 o ddisgyblion y perfformiad a oedd wedi’i deilwra ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.”
Fe ychwanegodd: “Roedd yn wythnos wych. Roedd yr holl athrawon a disgyblion a welodd y ddrama yn hapus iawn gyda’r negeseuon a drosglwyddwyd i’r disgyblion a hoffent ddiolch i’r myfyrwyr am eu hamser a’u hymdrech i gyflwyno cynhyrchiad mor broffesiynol.”
