Uchel Siryfion yn penodi eu Cadetiaid

Mae ein Huchel Siryfion newydd yn falch o gyhoeddi penodi eu Cadetiaid Heddlu ar gyfer eu blwyddyn yn y swydd.

High Sheriff of Clwyd, Kate Hill-Trevor and High Sheriff of Gwynedd, Janet Phillips.

Gwnaeth Kate Hill-Trevor, Uchel Siryf Clwyd, gyflwyno ei Chadetiaid yn ei seremoni Datganiad ym mis Ebrill yn Neuadd Bryncunallt, Y Waun.
Cyflwynwyd Brooke Blake-Hains a Steffan Lea, Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu, gyda’u bathodynnau Uchel Siryf yn y seremoni. Roedd Arglwydd Raglaw Clwyd, y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, y CHTh Andy Dunbobbin, Ei Anrhydedd y Barnwr Rhys Rowlands a gwesteion gwadd yn bresennol. Dywedodd yr Uchel Siryf wrthym: “Rwyf yn falch fod Brooke a Steffan wedi cael eu penodi fel fy Nghadetiaid am y deuddeg mis nesaf. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd. Rwyf yn gobeithio gwnânt fwynhau eu blwyddyn.” (VPC Lea and VPC Brooke-Hains pictured with High Sheriff of Clwyd, Chief Constable Amanda Blakeman and PCC Andy Dunbobbin)   Yng Ngwynedd, mae’r Uchel Siryf Janet Phillips wedi croesawu Olivia George ac Elliw Tate, Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu, fel Cadetiaid yr Uchel Siryf. Byddant yn mynd gyda hi ar ymweliadau swyddogol a digwyddiadau ymgysylltu ieuenctid yn ystod ei blwyddyn yn y swydd.

    Dywedodd Janet: “Rwyf yn gobeithio y bydd Elliw ac Olivia yn gallu gweld amrywiaeth o waith y byddaf yn ei ymgymryd fel Uchel Siryf.”