Ymunwch ag Uchel Siryf Gwynedd ar ei digwyddiad codi arian elusennol!

Ymunwch ag Uchel Siryf Gwynedd, Sarah Foskett YH ar Reilffordd Ffestiniog ar Ddydd Sul 29ain Medi 2024.
Bydd y codwr arian elusennol hwn yn helpu i ariannu 8 prosiect cymunedol lleol sy’n gweithio gyda phobl ifanc, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gymuned.
Bydd y trên yn gadael Gorsaf Harbwr Porthmadog am 1:40pm ac yn teithio i Feddgelert cyn dychwelyd i Borthmadog am 4:20pm.
Pris y tocynnau yw £25 yr oedolyn a gall plant deithio am ddim.
Mae croeso i gŵn hefyd. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu tocynnau, gellir eu prynu’n uniongyrchol o Orsaf yr Harbwr, Porthmadog neu e-bostiwch [email protected] neu tecstiwch 07799 463944.
Charity Train Poster