School children at Ysgol Llanllechid in Bethesda earnt their well-deserved Summer holidays by participating in a newly adopted behavioural programme in their final term.
A Bangor University research centre, who has introduced a number of child behaviour programmes in the past, has been carrying out research into an ever present issue; bullying that occurs in schools.
Research has been conducted in order to find a successful anti-bullying scheme that is effective in tackling the persistent issue. Ysgol Llanllechid is one of 21 primary schools in Wales which has introduced the programme.
The anti-bullying programme being trailed is known as; KiVa. Created by the University of Turku in Finland, it aims to reduce bullying through class lessons, online games to test children’s learning, a website for parents, comprehensive material for teachers and a structured approach to dealing with actual reported bullying incidents.
By being granted £493 in funding from the Crimebeat Youth Fund, Ysgol Llanllechid have been able to fully utilise the programme by acquiring necessary equipment for pupils to embrace KiVa, such as; guideline handbooks, rule cards and break management vests for staff.
On visiting the school, Dr Peter Harlech Jones, High Sheriff of Gwynedd commented: “It has been wonderful to oversee a project which addresses the difficult issue of bullying within schools today. Learning that some pupils actually approached staff to rectify such a problem, shows the willingness of them to strengthen their friendships in school.”
Cymraeg
Roedd plant Ysgol Llanllechid ym Methesda yn llwyr haeddu eu gwyliau haf ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen ymddygiadol newydd yn ystod tymor yr haf.
Mae canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi cyflwyno nifer o raglenni ymddygiad plant yn y gorffennol, wedi bod yn gwneud ymchwil i broblem sy’n gwrthod diflannu – sef bwlio mewn ysgolion.
Nod yr ymchwil oedd ceisio dod o hyd i gynllun atal bwlio llwyddiannus a fyddai’n gallu taclo’r broblem barhaus hon yn effeithiol. Mae Ysgol Llanllechid yn un o 21 o ysgolion cynradd yng Nghymru lle cyflwynwyd y rhaglen.
Yr enw ar y rhaglen yw ‘KiVa’ a chafodd ei chreu ym Mhrifysgol Turku yn y Ffindir. Mae’r rhaglen yn anelu at leihau bwlio drwy wersi yn y dosbarth, gemau ar-lein i weld faint mae’r plant wedi’i ddysgu, gwefan ar gyfer rhieni, deunyddiau cynhwysfawr ar gyfer athrawon a dull strwythuredig o ddelio â digwyddiadau o fwlio sy’n cael eu riportio.
Ar ôl cael £493 o arian o Gronfa Ieuenctid Trechu Trosedd bu modd i Ysgol Llanllechid wneud y mwyaf o’r rhaglen drwy sicrhau bod yr offer angenrheidiol ar gael i’r disgyblion fanteisio hyd yr eithaf ar y dysgu e.e. llawlyfrau, cardiau rheolau ayyb.
Meddai Dr Peter Harlech Jones, Uchel Siryf Gwynedd pan ymwelodd â’r ysgol: “Mae wedi bod yn wych gweld prosiect ar waith sy’n mynd i’r afael â’r broblem o fwlio yn ein hysgolion heddiw. Yn wir mae’r ffaith bod rhai disgyblion wedi mynd at staff eu hunain mewn ymdrech i ddatrys problemau o’r fath yn dangos eu parodrwydd a’u hawydd i fod yn well ffrindiau yn yr ysgol.”
