GALA CHARITY CONCERT

cyngerdd

On 9th December  2016 the High Sheriff of Gwynedd, Dr Peter Harlech Jones, will be hosting a gala charity concert in aid of Gwynedd Crimebeat and Criccieth Lifeboat featuring the leading Welsh tenor, Gwyn Hughes Jones, together with local artists Gwyneth Glyn, Piantel and Alys Roberts. Also appearing are two local choirs: Cor Cofnod Caernarfon and Cor Aelwyd Chwilog bringing a real local taste to the proceedings. The compere for the evening will be Mr Philip George of Criccieth

Gwyn Hughes Jones hails from Llanbedrgoch, Anglesey in Wales, and was trained as a baritone at Guildhall, winning the Kathleen Ferrier scholarship in 1992, before moving abroad to study with David Pollard as a tenor. He made his professional operatic debut in 1995 with Welsh National Opera. He has recently appeared in Madame Butterfly for Lyric Opera of Chicago and Nabucco for the Metropolitan Opera, New York. Future plans include performances at Teatro Regio, Parma, the Royal Opera, Covent Garden and English National Opera

The High Sheriff said “It is quite a coup to obtain the services of Gwyn Hughes Jones and our other artistes. I am looking forward to a fantastic evening of music and song whilst at the same time raising funds for two valuable causes that I have been involved with during my current term as High Sheriff. I would encourage you to but your tickets early to avoid disappointment”

There will also be an appearance by young people from the Menai Bridge Brass Band who will be performing during the concert interval. The Band have recently received a Crimebeat grant and the High Sheriff is delighted to be able this give concert- goers the opportunity to hear them perform.

The concert is being held at the Memorial hall in Criccieth. Tickets cost £20.00 each and can be purchased from:

The Post Office, Stryd Fawr, Criccieth or by email request to [email protected]

 

The High Sheriff is grateful for the support for the Gala Concert which has been received from:

Barclays Bank plc

Harlech Foodservice Ltd of Llanystumdwy

CK  Tools of Pwllheli

Magnox Socio-economic Scheme, Trawsfynydd site

Chairs of Gwynedd Council and Ynys Môn Council

Cymraeg

cyngerddAr Ragfyr 9fed, 2016, fe fydd Uchel-Siryf Gwynedd, Dr Peter Harlech Jones, yn cynnal cyngerdd elusennol fawreddog er budd Trechu Trosedd Gwynedd a Bad Achub Cricieth, yn cynnwys un o brif denoriaid Cymru, Gwyn Hughes Jones, ynghyd ag artistiaid lleol Gwyneth Glyn, Piantel ac Alys Roberts.  Bydd dau gôr lleol hefyd yn ymddangos: Côr Cofnod, Caernarfon a Chôr Aelwyd Chwilog, gan ddod â naws leol go iawn i’r achlysur. Cyflwynydd y noson fydd Mr Philip George o Gricieth.

Mae Gwyn Hughes Jones yn hanu o Lanbedrgoch, Ynys Môn. Hyfforddodd fel bariton yn y Guildhall, gan ennill ysgoloriaeth ym 1992, cyn symud dramor i astudio gyda David Pollard fel tenor. Gwnaeth ei ymddangosiad operatig proffesiynol ym 1995 gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Ymddangosodd yn ddiweddar yn Madame Butterfly i’r Lyric Opera o Chicago ac yn Nabucco i’r Opera Metropolitan, Efrog Newydd. Mae ei gynlluniau i’r dyfodol yn cynnwys perfformiadau yn y Teatro Regio, Parma, yr Opera Brenhinol, Covent Garden ag Opera Cenedlaethol Lloegr.

Dywedodd yr Uchel-Siryf: “Mae’n bluen yn ein het i fod wedi llwyddo bachu gwasanaeth Gwyn Hughes Jones a’n hartistiaid eraill. Dwi’n edrych ymlaen at noson werth chweil o gerddoriaeth a chân, tra’n codi arian ar yr un pryd i ddwy achos glodwiw y bues i ynghlwm â nhw yn ystod fy nhymor presennol fel Uchel-Siryf. Fe hoffwn eich annog i sicrhau eich tocynnau mewn da bryd rhag ofn ichi gael eich siomi.”

Fe fydd ymddangosiad hefyd gan bobl ifanc Band Pres Porthaethwy a fydd yn perfformio yn ystod egwyl y gyngerdd. Mae’r Band wedi derbyn grant gan Trechu Trosedd yn ddiweddar ac mae’r Uchel-Siryf wrth ei fodd yn medru rhoi’r cyfle i fynychwyr y gyngerdd eu clywed yn perfformio.

Cynhelir y gyngerdd yn y Neuadd Goffa yng Nghricieth. Mae’r tocynnau’n costio £20.00 y pen ac mae modd eu prynu o Swyddfa’r Post, Stryd Fawr, Cricieth neu trwy wneud cais ar e-bost at [email protected]

 

Mae’r Uchel Siryf yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae wedi’i chael ar gyfer y Cyngerdd Gala gan:

Barclays Bank plc

Harlech Foodservice Ltd, Llanystumdwy

CK Tools, Pwllheli

Cynllun Economaidd-Gymdeithasol Magnox, safle Trawsfynydd

Cadeiryddion Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn