High Sheriff of Gwynedd – Crimebeat Awards 2015

Bryn Du_NDF9709

At this year’s High Sheriff’s Crimebeat Awards the High Sheriff of Gwynedd and Anglesey, David Lea-Wilson, was delighted to be able to recognise the work of young people and police in the community. The High Sheriff also made a number of Personal awards to three individuals who he been impressed with during his year in office.

The Annual Crimebeat Project of the Year went to the Bryn Du Allotment Association (main picture). The High Sheriff was hugely impressed with the community work being undertaken with a thriving selection of allotments involving three generations of the local community.

The project is at a grass roots community level with a passion to make a difference. This project has increased the opportunities for local people to deliver what they want and to support young people with the opportunity to do something positive.

Many local residents have helped and supported the group and want to positively connect with their local community and deliver a project that would really make a difference.

Three further groups received a Highly Commended Crimebeat Award from the High Sheriff –

Peblig_NDF9704Caernarfon Dreamscheme

Project Coordinator Llinos Morris said: “The scheme has enabled the young people to organise and participate in community projects that have benefited not only themselves but the whole community. Their achievements and enthusiasm should be praised. We at Noddfa Church are very proud of them all.’

Amlwch FC_NDF9701Amlwch Town Junior Football Club

The Junior Football Club provides an opportunity for young people to be positively involved in football coaching and games, improving health, building positive relationships with others, improving self-esteem and encouraging respect for others (including opponents, match officials and the wider community).

Approximately 170 young people are supported by the club, and the teams operate at under 7, 9, 10, 11, 14s and 16s. A recent initiative has included a weekly ‘girls only’ turn up and play session with the aim of broadening participation.

Ffrindiau Llangoed_NDF9698Ffrindiau Llangoed, Community Pride project

This project engaged the young people of Llangoed community in a project to help clean up the village football club. Llangoed Football Club is the main activity in the village that the local youths are involved in. The project engaged young people in a project to help clean up the changing rooms at the village’s football pitch, and also took part in a clean-up of the village with Tidy Towns, including a general litter pick. In addition to this the young people also assisted with a project with the local elderly citizens.

 

Officers of North Wales Police were Commended for their community work –

Amlwch Neighbourhood_NDF9692Amlwch Neighbourhood Policing Team

Over the past year the Amlwch Neighbourhood Policing Team, consisting of PCSO Nerys Williams, PCSO Katy Hughes and PCSO Simon Cooper, have got the local youngsters involved in Community Pride projects in Llanerchymedd, Cemaes and Amlwch.

They have supported ‘Ffrindiau Parc Rhosybol’ and helped them to obtain funding towards park facilities for their community, and they are now in the process of obtaining funding for a park in Craig y Don, Amlwch. Thanks to the officers the youths of Penysarn have also benefitted from first aid sessions.

Sharon Jones_NDF9695PCSO Sharon Jones

PCSO Sharon Jones has 10 years’ service and is an integral member of the Gwynedd South Neighbourhood Policing Team. She provides a quality service and engages effectively with all sections of the community from Business Leaders, Council Officials, Youth, Elderly and the vulnerable in our society.

Gill Hughes_NDF9690PC Gill Hughes

PC Hughes worked in the North Wales Police Public Protection Department. Whilst there, and following the publication of the Bradley Report, she set up a working group to write the multi-agency protocol in relation to Section 136 of the Mental Health Act relating to the power of police officers to take a person who appears to be suffering from a mental disorder to a place of safety. Following the introduction of the new protocol and associated flow chart PC Hughes visited every police station within North Wales to give an input. This input reduced the number of Mentally Ill people being taken to a custody suite by eighty five percent.

Special Constables-Anglesey_NDF9687The High Sheriff also awarded Commendations to the Anglesey Special Constable Team of Special Chief Inspector Susan Williams, and Special Constables Victoria Hill and Geraint Roberts. Each member of team has demonstrated exceptional commitment to their voluntary roles serving over 1,700 volunteer hours between them. All three have demonstrated a long term commitment and belief in serving their community.

The High Sheriff’s concluded his year in office with three Personal Awards –

Dafydd Thomas – Treasurer, Amlwch Town Junior Football Club. A member of the club for over 15 years, Dafydd has been Treasurer for 13 of those years. He has been a retained firefighter for 25 years and for the last 10 years he has also run the young firefighters.

Mark Gahan – The High Sheriff publicly thanked Mark for his work to secure funding from the Spirit of 2012 Fund because it was principally down to him that the forms were filled in on time, the judges were impressed and the Bro Aberfraw community were awarded £200,000 to be spent benefiting the residents of Newborough, Aberffraw and surrounding area.

The final Award of the evening went to Mr. Richard Carter – Wales’ oldest poppy seller who started volunteering in his 80’s. Richard told the High Sheriff that he wanted to do something after his wife passed away in his early 80’s so he took up selling Poppies and working with the British Legion. He celebrated his 100th birthday last year and he is still doing voluntary work selling poppies at his local drop in centre in Dwyran.

Dafydd Thomas_NDF9718Mark Gahan_NDF9719Richard Carter_NDF9725

Yng Ngwobrau Trechu Trosedd Uchel Siryf Gwynedd eleni roedd Uchel Siryf Gwynedd a Môn, David Lea-Wilson yn falch iawn o gael cydnabod gwaith pobl ifanc a’r heddlu yn y gymuned. Rhoddodd yr Uchel Siryf nifer o wobrau personol hefyd i dri unigolyn yr oedd wedi creu argraff arno yn ystod y flwyddyn. 

Dyfarnwyd Gwobr Flynyddol Prosiect Trechu Trosedd y Flwyddyn i Gymdeithas Rhandiroedd Bryn Du. Roedd y gwaith cymunedol wedi creu argraff sylweddol ar yr Uchel Siryf, gyda nifer o’r rhandiroedd yn cynnwys tair cenhedlaeth o’r gymuned leol.

Mae’r prosiect yn un sydd wrth wraidd y gymuned ac yn cynnwys pobl sy’n frwdfrydig i wneud gwahaniaeth. Mae’r prosiect wedi cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl leol wneud yr hyn maent yn ei ddymuno a chefnogi pobl ifanc gyda’r cyfle i wneud rhywbeth positif.

Mae nifer o drigolion lleol wedi helpu a chynorthwyo’r grŵp er mwyn ymgysylltu â’r gymuned leol a darparu prosiect a fyddai’n gwneud gwir wahaniaeth.

Derbyniodd tri grŵp arall Wobr Trechu Trosedd Teilyngdod Uchel gan yr Uchel Siryf –

Cynllun Breuddwydion Caernarfon

Meddai Cydlynydd y Prosiect, Llinos Morris: “Mae’r cynllun wedi galluogi’r bobl ifanc i drefnu a chymryd rhan mewn prosiectau cymunedol sydd nid yn unig wedi eu elwa nhw ond y gymuned gyfan. Dylid eu canmol am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni a’u brwdfrydedd. Rydym ni yma yn Eglwys Noddfa yn falch iawn ohonyn nhw i gyd.”

Clwb Pêl-droed Ieuenctid Amlwch

Mae’r Clwb Pêl-droed Ieuenctid yn rhoi cyfle i bobl ifanc chwarae rhan positif o ran hyfforddi a chwarae mewn gemau, gwella iechyd, datblygu perthnasau cadarnhaol ag eraill, gwella hunan hyder a datblygu parch tuag at eraill (yn cynnwys gwrthwynebwyr, dyfarnwyr a’r gymuned ehangach).

Mae tua 170 o bobl ifanc yn cael eu cefnogi gan y clwb ac mae timau o dan 7, 9, 10, 11, 14 ac 16 oed yn bodoli. Mae menter ddiweddar wedi cynnwys sesiwn ‘merched yn unig’ gyda’r nod o gynyddu nifer y merched sy’n cymryd rhan.

Prosiect Balchder Cymunedol, Ffrindiau Llangoed,

Roedd y prosiect hwn yn ymgysylltu â phobl ifanc Llangoed wrth i’r prosiect gynorthwyo i glirio clwb pêl-droed pentref Llangoed. Clwb Pêl-droed Llangoed yw’r prif beth y mae pobl ifanc y pentref yn ymwneud ag ef. Roedd y prosiect yn ymgysylltu â’r bobl ifanc mewn prosiect a oedd yn helpu i lanhau’r ystafelloedd newid yn y pentref ac fe gynhaliwyd sesiwn lanhau’r pentref drwy’r cynllun Trefi Taclus a oedd yn cynnwys sesiwn casglu sbwriel. Yn ychwanegol at hyn, cynorthwyodd y bobl ifanc â phrosiect gyda henoed yr ardal.

Tîm Plismona Cymdogaeth Amlwch

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Tîm Plismona Cymdogaeth Amlwch, sy’n cynnwys SCCH Nerys Williams, SCCH Katy Hughes a SCCH Simon Cooper wedi cael pobl ifanc lleol i ymwneud â phrosiectau Balchder Cymunedol yn ardaloedd Llannerchymedd, Cemaes ac Amlwch.

Maent wedi cefnogi ‘Ffrindiau Parc Rhosybol’ ac wedi eu helpu nhw i gael cyllid tuag at adnoddau parc ar gyfer y gymuned ac maent ar hyn o bryd yn y broses o gael nawdd ar gyfer parc yng Nghraig y Don, Amlwch. Diolch i’r Swyddogion mae pobl ifanc Penysarn hefyd wedi elwa o sesiynau Cymorth Cyntaf.

SCCH Sharon Jones

Mae gan SCCH Sharon Jones 10 mlynedd o wasanaeth ac mae hi’n rhan hynod bwysig o Dîm Plismona Cymdogaeth De Gwynedd. Mae hi’n darparu gwasanaeth o safon ac yn ymgysylltu’n llwyddiannus â phob carfan o’r gymuned yn Arweinwyr Busnes, Swyddogion Cyngor, Pobl Ifanc, Henoed a phobl agored i niwed yn ein cymunedau.

PC Gill Hughes

Gweithiodd PC Hughes yn Adran Diogelu’r Cyhoedd Heddlu Gogledd Cymru. Yn ystod ei chyfnod yno, ac yn dilyn cyhoeddiad Adroddiad Bradley, sefydlodd weithgor er mwyn ysgrifennu’r protocol aml-asiantaeth mewn perthynas ag Adran 136 y Ddeddf Iechyd Meddwl yn ymwneud â grym Swyddogion Heddlu i gael mynd â rhywun sy’n ymddangos eu bod yn dioddef o anhwylder iechyd meddwl i le diogel. Yn dilyn cyflwyniad y protocol newydd a’r siart llif cysylltiedig, ymwelodd PC Hughes â phob Gorsaf Heddlu yng Ngogledd Cymru i roi mewnbwn. Llwyddodd y mewnbwn hwn i leihau nifer y bobl sy’n dioddef o iechyd meddwl sy’n cael eu cludo i’r ddalfa 85%.

Rhoddodd yr Uchel Siryf hefyd wobrau i Dîm Swyddogion Gwirfoddol Ynys Môn sef Prif Arolygydd Gwirfoddol Susan Williams a’r Swyddogion Gwirfoddol Victoria Hill a Geraint Roberts. Mae pob aelod o’r tîm wedi dangos ymroddiad aruthrol i’w rolau gwirfoddol gan wasanaethu dros 1,700 o oriau gwirfoddol rhyngddynt. Mae’r tri wedi dangos ymrwymiad tymor hir i wasanaethu eu cymuned.

Bu’r Uchel Siryf gloi ei flwyddyn yn y rôl gyda thair Gwobr Bersonol

Dafydd Thomas – Trysorydd Clwb Pêl-droed Ieuenctid Amlwch. Yn Aelod o’r clwb ers dros 15 mlynedd, bu Dafydd yn drysorydd am 13 o’r blynyddoedd hynny. Bu’n ddiffoddwr tân wrth gefn am 25 mlynedd ac am y 10 mlynedd diwethaf mae hefyd wedi rhedeg y diffoddwyr tân ifanc.

Mark Gahan – Diolchodd yr Uchel Siryf yn gyhoeddus i Mark am ei waith o ddiogelu cyllid o’r Gronfa Ysbryd 2012, roedd y clod iddo ef bod y ffurflenni wedi cael eu llenwi ar amser, bod argraff wedi’i chreu ar y beirniaid ac y rhoddwyd £200,000 i gymuned Bro Aberffraw ei wario ar elwa trigolion Niwbwrch, Aberffraw a’r cyffiniau.

Dyfarnwyd gwobr olaf y noson i Mr Richard Carter – gwerthwr pabïau hynaf Cymru a ddechreuodd wirfoddoli yn ei 80au. Dywedodd Richard wrth yr Uchel Siryf ei fod eisiau gwneud rhywbeth ar ôl colli ei wraig a tra yn ei 80au cynnar dechreuodd wirfoddoli gyda’r Lleng Brydeinig. Dathlodd ei ben-blwydd yn 100 oed y llynedd ac mae’n dal i wneud gwaith gwirfoddol drwy werthu pabïau yn ei ganolfan alw heibio leol yn Nwyran.