A scheme designed to teach local youngsters new skills to occupy their time during school holidays was recently launched on Anglesey. The Anglesey Diversionary Project brought together the Ynys Mon Angling Association, Environment Agency Wales and aided by a grant from the High Sheriff’s Crimbeat charity will provide eight local young people with four sessions of instructions in the art of sport and fly fishing.
Three experienced instructors from the Ynys Mon Angling Association, Nick Massey, Mark Hill and Len Lee have given up their own time to ensure the scheme proves a success. Nick Massey said “it’s great seeing young people taking an interest in fishing and it’s a hobby they can enjoy forever.”
In the first of the sessions held on 27th July members of the Ynys Mon Angling Association provided some basic skills at Llyn y Gore in Llandegfan. Further sessions are planned in August.
Local PCSO Iona Beckman, North Wales Police is fully behind the scheme added “This will provide the youngsters an opportunity to learn some life long skills.
“We hope they share their experiences with friends and encourage others to take part in something constructive during the school holidays and in fact any time of year as this is all aimed at reducing Anti Social Behaviour and improving the lives of the whole community.
“It was a real team effort to organise the events and I am extremely grateful for the funding and support received. The participants are thoroughly enjoying the project and it is a great opportunity for some intergenerational engagement. The training will improve the youngsters basic knowledge of fishing and hopefully encourage them to share their knowledge with others during the summer holidays“Yn ddiweddar cafodd cynllun sydd wedi’i gynllunio i ddysgu sgiliau newydd i bobl ifanc er mwyn iddynt gael rhywbeth i’w wneud yn ystod gwyliau’r ysgol ei lansio yn Ynys Môn. Mi wnaeth Prosiect Dargyfeiriol Ynys Môn ddod â Chymdeithas Bysgota Ynys Môn ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru at ei gilydd, a diolch i nawdd a gafwyd gan elusen Trechu Trosedd yr Uchel Siryf bydd wyth person ifanc lleol yn cael pedwar sesiwn hyfforddi ar bysgota â phlu.
Mae tri hyfforddwr profiadol o Gymdeithas Bysgota Ynys Môn, Nick Massey, Mark Hill a Len Lee wedi gwirfoddoli eu hamser eu hunain er mwyn sicrhau bod y cynllun yn llwyddiannus. Meddai Nick Massey: “Mae’n wych gweld pobl ifanc yn cymryd diddordeb mewn pysgota ac mae’n hobi y gallant ei fwynhau am byth”.
Yn ystod y sesiwn gyntaf a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf mi wnaeth Cymdeithas Bysgota Ynys Môn ddysgu ychydig o sgiliau sylfaenol i’r bobl ifanc ar Lyn y Gors yn Llandegfan. Mae rhagor o sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer mis Awst.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn llwyr gefnogi’r cynllun ac fe ddywedodd SCCH lleol Iona Beckman “Bydd hwn yn gyfle i’r bobl ifanc ddysgu ychydig o sgiliau gydol oes.
“Rydym yn gobeithio y byddant yn rhannu eu profiadau gyda’u ffrindiau ac yn annog eraill i gymryd rhan mewn rhywbeth adeiladol yn ystod gwyliau’r ysgol ac yn wir unrhyw adeg o’r flwyddyn. Y gobaith ydi y bydd hyn yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gwella bywydau trigolion y gymuned gyfan.
“Mi wnaeth pawb weithio fel tîm i drefnu’r digwyddiadau ac rwy’n ddiolchgar iawn am y nawdd a’r gefnogaeth a gafwyd. Mae’r bobl ifanc yn wirioneddol mwynhau’r prosiect ac mae’n gyfle gwych iddynt ymgysylltu â phobl o bob oed. Bydd yr hyfforddiant yn gwella gwybodaeth sylfaenol y bobl ifanc am bysgota ac rwy’n gobeithio y byddant yn rhannu eu sgiliau gydag eraill yn ystod gwyliau’r haf”.
