Am y flwyddyn ddiwethaf mae VPC Charlie Jones-Capper wedi bod yn un o bedwar Cadét yr Uchel Siryf yng Nghlwyd.
Yn seremoni Gwobrau Cymunedol yr Uchel Siryf a gynhaliwyd yn Ysgol Rydal
a gynhelir yn Rydal School, Bae Colwyn Charlie hefo dros 150 o westeion gwadd am ei rôl fel cadét a’i gyfnod fel Cadét yr Uchel Siryf.
Dyma ddywedodd o:
Prynhawn da bawb,
Fy enw i ydy Charlie, a dwi’n falch o wasanaethu fel Uwch Gadét yr Heddlu a Chadét yr Uchel Siryf yn uned Wrecsam. Mae’n fraint bod yn rhan o dîm sy’n gweithio’n galed er mwyn helpu ein cymuned ni, cael effaith gadarnhaol, a gosod esiampl i bobl eraill.
Mae bod yn gadét yn ymwneud mwy na gwisgo’r lifrai yn unig. Mae’n ymwneud hefo cyfrifoldeb, gwaith tîm, a gwneud gwahaniaeth go iawn. Bob dydd, ‘da ni’n dysgu sgiliau sy’n ein paratoi ni ar gyfer y dyfodol wrth roi yn ôl i’r bobl o’n cwmpas ni.
Dwi’n ddiolchgar am y cyfleoedd dwi wedi’u cael, y gwersi dwi wedi’u dysgu, a’r bobl dwi wedi cyfarfod hefo nhw ar hyd y ffordd. Dwi’n edrych ymlaen at barhau gwasanaethu fy uned a’m cymuned i hefo balchder ac ymroddiad. Diolch.
Dywedodd Charlie hefyd ei fod yn mwynhau mynychu cyfarfodydd Trechu Trosedd, yn ogystal â gorymdeithiau cwblhau hyfforddiant a seremonïau dinasyddiaeth. Yn ystod ei gyfnod fel Cadét yr Uchel Siryf fe wnaeth gyfarfod llawer o bobl ddiddorol ac roedd yn falch o gynrychioli Cadetiaid Heddlu Gogledd Cymru yn rôl Cadét yr Uchel Siryf.
Uchel Siryf Clwyd 2024/25, Karen Farrell-Thornley, sydd ar fin darfod, wrthym ni:
“Yn ystod fy mlwyddyn fel Uchel Siryf Clwyd un o fy uchafbwyntiau niferus oedd fy ymwneud â chadetiaid yr heddlu. Gwylio’r cadetiaid mewn ystodau oedran o 12 i 17 yn gweithio gyda’i gilydd ar brosiectau fel tîm, gan adeiladu hyder a chyfathrebu ar draws pob ystod oedran.
Mae dod yn Gadetiaid yr Heddlu hefyd nid yn unig ar gyfer pobl ifanc sy’n dymuno dilyn gyrfa yn yr heddlu ond mae’n ymwneud â phobl ifanc yn cael cyfle i brofi gwaith ein timau plismona ac ymgysylltu â’n cymunedau.
Dangosodd y prawf o fanteision o’r fath yn sicr ar ddiwrnod fy seremoni wobrwyo gydag araith Charlie a hefyd hyder Lucy, Seren a Ruby yn croesawu llawer o westeion a bod yn rhan weithredol fel cefnogaeth i’r diwrnod.”
Gallwch ddarganfod mwy am Gadetiaid Heddlu Gwirfoddol Heddlu Gogledd Cymru yn:
Cadetiaid gwirfoddol yr heddlu | Heddlu Gogledd Cymru


